Mae’r Tîm Cyngor Dilyniant yn darparu cymorth anfeirniadol i fyfyrwyr o bob cefndir.
Mae apwyntiadau ar gael 9:30 am - 3:30 pm, dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener.
Rydym yn cynning apwyntiadau dros y ffôn, Teams neu ar y campus.
Gallwch drefnu apwyntiad gan ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein (chwiliwch am apwyntiadau ‘progression’) a dewiswch yr opsiwn perthnasol (dull cyswllt) o'r gwymplen. Cynhwyswch eich rheswm dros archebu yn y nodiadau Ymholwr.
Rhowch wybod i ni wrth i chi drefnu apwyntiad a ydych eisiau’r apwyntiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Nodwch, efallai y bydd angen trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol.
Os hoffech i berson arall siarad ar eich rhan bydd rhaid i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o'ch cyfrif e-bost prifysgol i [email protected] cyn y cyfarfod.
Gallwch hefyd drefnu apwyntiad drwy gysylltu â'r Ardal Gynghori, lle gallant asesu eich anghenion a'ch cyfeirio at gefnogaeth briodol.
Anfonwch e-bost at [email protected]os nad ydych chi'n siŵr ai ni yw'r gwasanaeth iawn i chi.
Yn eich apwyntiad, nid oes rhaid i chi ddatgelu eich amgylchiadau personol, ond gallai ein helpu i ddarparu cyngor pellach sy'n berthnasol ac yn briodol i'ch amgylchiadau. Lle bydd yn bosibl, bydd yr ymgynghorydd yn edrych ar eich proffil cyn cyfarfod. Bydd yr ymgynghorydd yn cymryd nodiadau yn yr apwyntiad ac yn anfon crynodeb o'r cyfarfod atoch trwy e-bost, gan gynnwys unrhyw gyngor a ddarperir a dolenni i wybodaeth a chefnogaeth. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thrin yn unol â GDPR.
Os na allwch gadw apwyntiad, canslwch ef gan ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein cyn gynted â phosibl. Mae hyn er mwyn i ni allu defnyddio'r amser i gefnogi myfyrwyr eraill.
Sicrhewch eich bod yn cadw at amser yr apwyntiad neu efallai na fyddwn yn gallu darparu ar gyfer eich apwyntiad. Ar adegau prysur, gallai hyn achosi oedi i’n gallu i siarad â chi am sawl diwrnod.
Er mwyn osgoi rhwystredigaeth, cyrhaeddwch mewn pryd i sicrhau nad yw eich cefnogaeth yn cael ei oedi'n ddiangen.
E-bost: [email protected]
Lynda Jones
Uwch Gynghorydd Dilyniant
Julie Barnett
Cynghorydd Dilyniant
Claire Davies
Cynghorydd Dilyniant
Helen Bowen
Cynghorydd Dilyniant
Jon Emery
Cynghorydd Dilyniant
Cynghorydd Dilyniant
Brenda Davies
Cynghorydd Dilynian
Kara Mayne
Cynghorydd Dilynian
Fel tîm rydym yn monitro ein gwasanaeth yn barhaus ac yn ceisio cefnogi myfyrwyr yn y ffordd orau bosibl yn unol â rheoliadau a phrosesau'r Brifysgol.
Os hoffech chi gadael adborth, cyflwynwch gan ddefnyddio'r ffurflen MS yma (Defnyddiwch yr opsiwn iaith (dde uchaf y ffurflen) i newid i'r Gymraeg).
Mae pob ymateb yn anhysbys oni bai eich bod yn dewis darparu eich Enw / ID a'ch cyfeiriad e-bost.