Efallai eich bod yn ystyried gadael y brifysgol am nifer o resymau, ond efallai y bydd opsiynau neu bethau eraill i'w hystyried cyn i chi gymryd y cam olaf hwnnw.
Mae'r dudalen hon yn darparu awgrymiadau, opsiynau posibl, a chyngor ar ble i ofyn am fwy o wybodaeth neu gymorth.
Mae dechrau yn y brifysgol yn drawsnewidiad mawr ac yn un y gallech fod yn cael trafferth ag ef. Nid yw hyn mor anarferol ag y gallech feddwl - byw oddi cartref am y tro cyntaf, newidiadau i drefn ac amserlen, teimlo'n ansicr am y cwrs, neu deimlo nad ydych yn perthyn – mae'r cyfan yn cymryd amser i ddod i arfer ag ef.
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun yn eich meddyliau, ac weithiau gall siarad â phobl eraill helpu i bethau deimlo'n fwy hylaw.
Mae rhai pethau cyffredinol y gallwch eu gwneud i helpu:
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau neu rhesymau dros adael, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael i chi, er enghraifft:
Gallwch edrych ar y tudalennau uchod i gael gwybodaeth am yr opsiynau, ond efallai yr hoffech drafod hyn gyda Chynghorydd.
Efallai na fyddwch yn ymwybodol o'r cymorth i fyfyrwyr yn PDC. Neu efallai na fyddwch yn siŵr pa wasanaeth sydd orau i chi.
Gall y cymorth canlynol fod yn arbennig o berthnasol os ydych yn ystyried gadael:
Gallwch gysylltu â'r Ardal Gynghori yn bersonol, dros y ffôn neu drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein, a gallant eich cyfeirio at y gwasanaeth perthnasol.
Os ydych chi'n teimlo y gallai fod angen cymorth arnoch gan fwy nag un gwasanaeth, neu ddim yn siŵr pa fath o gymorth y gallai fod ei hangen arnoch, gallwch siarad â chynghorydd a fydd yn trafod eich amgylchiadau ac yn darparu cymorth a chyngor cyfannol.
Gall y Tîm Cyngor Dilyniant eich helpu i ddeall eich opsiynau fel y gallwch chi benderfynu ar y cam nesaf. Er enghraifft, gallai hyn fod yn trosglwyddo i gwrs arall neu i astudio'n rhan-amser, cymryd blwyddyn allan, neu efallai gadael y brifysgol - mae'n bwysig eich bod yn ystyried eich holl opsiynau i wneud penderfyniad gwybodus, pa un bynnag sy'n iawn i chi.
Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch i'ch helpu yn eich astudiaethau, a bydd yr ymgynghorydd yn trafod hyn gyda chi ac yn eich helpu i gael mynediad at y gwasanaeth priodol.
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech ei ystyried, archebwch apwyntiad gyda'r Tîm Cyngor Dilyniant, neu cysylltwch gyda’r tîm trwy anfon e-bost at [email protected] am help gydag archebu. Mae apwyntiadau ar gael dros y ffôn, dros Teams, neu ar y campws.
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi ystyried popeth ac wedi penderfynu mai gadael yw'r opsiwn iawn i chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen ac yn dilyn y dudalen hon wrth dynnu'n ôl o'ch astudiaethau. Rydym yn deall nad yw hyn yn benderfyniad hawdd, ond rydym yn gobeithio mai hwn yw'r un iawn i chi.
Mae'r dudalen tynnu'n ôl uchod yn cynnwys ychydig o bethau eraill y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn i chi dynnu'n ôl yn ffurfiol, a'r weithdrefn ar gyfer tynnu'n ôl o'ch astudiaethau.
Gofynnir i chi lenwi ffurflen fel y gellir ei phrosesu ar ein systemau, ynghyd ag e-bost i ddangos eich bod wedi rhoi gwybod i Arweinydd eich Cwrs neu Hyfforddwr Academaidd Personol, os oes gennych chi un, eich bod wedi penderfynu tynnu'n ôl fel eu bod yn gwybod i beidio â dilyn unrhyw brosesau eraill.
Gofynnir i chi hefyd am y rheswm yr ydych yn tynnu'n ôl - mae hyn er mwyn i'r Brifysgol allu adrodd ac archwilio unrhyw feysydd lle gallwn helpu myfyrwyr yn y dyfodol.
Os ydych yn darllen hwn, ar ôl gwneud y penderfyniad hwn, rydym yn dymuno’r gorau i chi ar gyfer eich dyfodol. Efallai y byddwch yn ystyried dod yn ôl i Brifysgol De Cymru ar adeg arrall, a gobeithiwn eich gweld bryd hynny.