Rydych chi eisoes wedi paratoi ar gyfer eich blwyddyn olaf a nawr eich bod wedi cofrestru mae’n amser gweithredu. I ddechrau, gwiriwch y pethau sylfaenol:
Efallai y bydd gennych gwestiynau am yr hyn sydd i ddod. Darganfyddwch pa fath o asesiadau y disgwylir i chi eu gwneud eleni, bydd hyn yn helpu i ganolbwyntio eich meddwl. Os nad ydych chi eisoes wedi cael syniad teg o'r hyn sydd ar yr agenda ar gyfer eich blwyddyn i ddod, cysylltwch â’ch Arweinydd Cwrs neu Diwtor gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os ydych chi angen help arnoch i ddod o hyd i ddeunydd yn y llyfrgell gofynnwch i staff y llyfrgell eich helpu i lywio eich ffordd o amgylch.
Ydych chi wedi cael sesiwn ‘Sgiliau Llyfrgell: y cam nesaf’ gydag un o Lyfrgellwyr ein Cyfadran? Os na, gofynnwch i'ch darlithydd ei drefnu gydag un o'n llyfrgellwyr. Mae hon yn sesiwn fanwl â ffocws ar wneud darn sylweddol o ymchwil unigol, megis traethawd estynedig. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad un i un.
Ble bynnag yr ydych yn y broses traethawd estynedig neu flwyddyn olaf, defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael i'ch cadw ar y trywydd iawn. Cymerwch olwg ar y ddolen hon isod:
Y Prosiect Terfynol neu'r Traethawd Estynedig.
Os ydych yn dymuno gweld sut olwg sydd ar draethawd estynedig, gallwch edrych ar yr enghreifftiau hyn o draethodau estynedig gan Brifysgolion eraill:
Best Undergraduate Dissertations (Prifysgol Bryste).
Dissertation examples (Prifysgol Leeds).
Adeiladwch eich hyder trwy weithio gyda Gyrfaoedd. Efallai bod eich llwybr gyrfa dewisol eisoes wedi'i benderfynu neu efallai nad oes gennych unrhyw syniad! Naill ffordd neu'r llall gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu.
Dewch o hyd i wybodaeth am ddatblygu sgiliau a phriodoleddau graddedigion i fod yn barod am yrfa ar MyCareer.
Siaradwch â phobl ac ehangwch eich rhwydwaith. Gall hyn gynnwys siarad â thîm eich cwrs, eich cydweithwyr, gwasanaethau cymorth. Peidiwch ag anghofio, os ydych chi'n cael trafferth siarad â'r Tîm Lles.
Mae mwy y gallwch chi ei wneud i wella eich siawns o lwyddo - dilynwch yr awgrymiadau ar 'Gwella eich Siawns'.
Peidiwch ag oedi tan yfory yr hyn a allwch chi ei wneud heddiw. Benjamin Franklin
Gall astudio gyflwyno llawer o heriau ond rydych chi wedi cyrraedd mor bell â hyn a gallwch fynd ymlaen i lwyddo. Mae’n bryd adeiladu ar yr hyn rydych wedi’i wneud a chyflawni’ch potensial.