Y Broses Ymgysylltu a'r Diffyg Ymgysylltu

Beth mae'r Brifysgol yn ei olygu wrth ‘ymgysylltu’?

Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr:

  • mynychu a chymryd rhan weithredol yn yr holl ddarlithoedd, cyfarfodydd a gweithgareddau eraill sydd wedi'u hamserlennu a drefnir mewn perthynas â'u cwrs* gan gynnwys y rheini sy'n cael eu cynnig o bell;
  • gwneud defnydd priodol o'u UniLearn (e.e. Blackboard, Panopto, Turnitin);
  • cyflwyno asesiadau mewn pryd;
  • ymateb i gyfathrebiadau'r Brifysgol mewn modd amserol.

*Gwiriwch â'ch tîm cwrs am unrhyw ofynion penodol ar gyfer eich cwrs. Gweler hefyd Siarter Myfyrwyr.

Presenoldeb ac Absenoldeb

Mae presenoldeb da yn rhan hanfodol o ymgysylltu, ond rydym yn deall efallai y bydd yn rhaid i chi golli gweithgaredd a drefnwyd.  Am fwy o wybodaeth gweler Presenoldeb ac Absenoldeb.



Dolphins

Os bernir bod eich ymgysylltiad â'ch cwrs yn anfoddhaol, efallai y bydd y broses Diffyg Ymgysylltu yn cael ei rhoi ar waith gan dîm eich cwrs. Byddant yn cysylltu â chi i ddechrau i drafod ail-ymgysylltu â'r cwrs. Os byddwch yn derbyn e-bost mae'n bwysig eich bod yn ymateb o fewn yr amserlenni perthnasol. Mae’r diagram isod yn amlinellu’r broses lawn:

Welsh engagement process


Bydd cyfarfod gyda'r Tîm Cyngor Dilyniant yn eich galluogi i drafod eich pryderon neu anawsterau gyda'ch astudiaethau a bydd yn anelu at eich helpu i ail-ymgysylltu â'ch cwrs.

Lle nad yw ail-ymgysylltu yn bosibl i chi byddant yn archwilio opsiynau eraill sydd ar gael.

Mae'n bwysig i chi gael help. Gall y Gwasanaeth Llesiant eich helpu i edrych ar yr amrywiaeth o opsiynau cymorth a allai fod yn agored i chi.

Os na allwch ymgysylltu â'ch astudiaethau oherwydd eich iechyd corfforol neu feddyliol, gall y rheoliadau Cymorth i Astudio fod yn berthnasol.

Dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd i drafod y gefnogaeth sydd ar gael..

Os na allwch ymgysylltu â'ch astudiaethau oherwydd eich iechyd corfforol neu feddyliol, gall y rheoliadau Cymorth i Astudio fod yn berthnasol.

Os na chaiff eich materion ymgysylltu eu datrys, efallai y cewch eich tynnu'n ôl o'ch cwrs, ac os felly, anfonir hysbysiad tynnu'n ôl atoch drwy'r e-bost.

Os cewch eich tynnu'n ôl, mae gennych hawl i apelio o fewn 10 diwrnod gwaith o'r dyddiad y caiff yr hysbysiad tynnu'n ôl ei anfon atoch drwy e-bost.

  1. Mae gan fyfyrwyr yr hawl i apelio yn erbyn eu tynnu'n ôl am ddiffyg ymgysylltu.
  2. Dylid gwneud apeliadau i'r Pennaeth Cofnodion, Adroddiadau a Systemau Myfyrwyr ([email protected]) neu enwebai.
  3. Y seiliau ar gyfer gwneud apeliadau yw: Nad oeddech yn gallu cymryd rhan yng ngweithdrefnau'r Brifysgol ar y pryd am reswm da; Nad oedd y gweithdrefnau yn cael eu cynnal yn deg a / neu yn unol â'r rheoliadau cyhoeddedig.
  4. Rhaid i'r dystiolaeth gael ei darparu gan y myfyriwr sy'n cefnogi ei sail / seiliau dros apelio.
  5. Rhaid cyflwyno hysbysiad apêl yn ysgrifenedig i'rPennaeth Cofnodion, Adroddiadau a Systemau Myfyrwyr a rhaid ei dderbyn ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl yr hysbysiad ffurfiol o dynnu'n ôl.
  6. Bydd penderfyniad y Pennaeth Cofnodion, Adroddiadau a Systemau Myfyrwyr yn derfynol a chaiff ei hysbysu i'r myfyriwr o fewn cyfnod o 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr apêl. Caiff y penderfyniad ei gyfleu trwy e-bost a / neu bost dosbarth cyntaf i gyfeiriad hysbys diwethaf y myfyriwr. Tybir bod anfoniad o'r fath yn ddigon i gyflawni'r ddyletswydd i hysbysu'r myfyriwr.


Bydd cyfarfod gyda'r Tîm Cyngor Dilyniant yn eich galluogi i drafod eich pryderon neu anawsterau gyda'ch astudiaethau a bydd yn anelu at eich helpu i ail-ymgysylltu â'ch cwrs. Byddant hefyd yn eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.

Gellir cael cymorth pellach drwy'r Gwasanaeth Llesiant neu’r Gaplaniaeth

Weithiau, efallai y byddwch yn teimlo bod angen cymorth arnoch sy'n annibynnol ar y Brifysgol, er enghraifft, os hoffech chi ddod â rhywun pan fyddwch chi'n cyfarfod â'r Tîm Cyngor Dilyniant. Yn yr achos hwnnw, byddem yn eich cynghori i gysylltu â'ch Undeb Myfyrwyr.

Os ydych wedi penderfynu tynnu-n ôl neu dorri at draws eich astudiaethau, mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu â'r Parth Cynghori a chwblhau’r broses brioodol gan y byddwch yn dal i fod yn atebol am ffioedd. Noder nad yw peido a fynychu dosbarthiadau ynddo'i hun yn golygu tynnu'n ôl yn ffurfiol.