prepUni.jpg

Paratoi ar gyfer Prifysgol

Os ydych yn edrych ar y dudalen hon rydych eisoes yn debygol o fod â lle yn PDC, neu efallai ein bod ni ar eich rhestr fer chi. Y naill ffordd neu'r llall, rydym am eich helpu i baratoi ar gyfer prifysgol cyn i chi ddechrau ac felly rydym wedi llunio'r tudalennau hyn i helpu'r cyfnod pontio.

Cewch rywfaint o wybodaeth a chyngor am yr hyn i'w ddisgwyl pan fyddwch yma, a rhai awgrymiadau ar sut i fwrw ymlaen fel eich bod wedi paratoi'n dda cyn i chi gael eich amsugno yng nghorwynt y tymor cyntaf!

Rydym ni yn y tîm Dilyniant hefyd wedi llunio tudalennau ar ôl i chi ddechrau eich blwyddyn gyntaf, ac ar gyfer pob blwyddyn byddwch yn symud ymlaen ar eich taith myfyriwr.

Pob lwc ar eich antur newydd!


Y cyfan am sut beth yw bod yn fyfyriwr, beth i'w ddisgwyl, a mynd i'r afael â mythau cyffredin.


Awgrymiadau gan fyfyrwyr, a'r hyn y gallwch ei wneud i gael dechrau da.