flyeagle.jpg

Llwyddo yn Eich Ail Flwyddyn

Yr un hen beth... neu ai dyna yw?

Er gwaethaf teimlo ychydig yn hŷn ac yn ddoethach ar ôl i chi ddechrau ar ail flwyddyn eich cwrs, efallai y byddwch yn darganfod nad yw pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl.   Efallai y byddwch chi'n canfod eich bod chi'n gwybod llai nag yr oeddech chi'n meddwl yn flaenorol, neu efallai bod eich ffocws - a chithau - wedi newid.   

Mae hynna'n iawn, mae llawer o fyfyrwyr yr ail flwyddyn yn sylwi bod pethau yn wahanol, gyda:

  • disgwyliadau i ddarllen mwy ynghylch y maes pwnc;
  • gofyniad i aseiniadau ysgrifenedig fod yn hirach ac yn fwy manwl;
  • dysgu'n gyffredinol yn fwy annibynnol.

Yn gryno, disgwylir i chi wneud mwy nag yn eich blwyddyn gyntaf.  Ond peidiwch â phoeni, mae pawb yn addasu i newid ar gyflymdra gwahanol.


Bydd y tudalennau hyn yn eich helpu i addasu, gan edrych ar y canlynol: