sunrise.jpg

Eich Blwyddyn Gyntaf

Mae trosglwyddo i'r Brifysgol yn newid mawr a gall gymryd amser i chi wir deimlo'n sefydlog yn eich bywyd newydd. Rydym am roi sicrwydd i chi bod hyn yn normal.

Mae patrwm y teimladau wrth fynd trwy newid bywyd mawr yn eithaf rhagweladwy mewn gwirionedd. Gall y patrwm hwn o deimladau amrywio o frwdfrydedd a chyffro i hiraeth neu ddiffyg hyder yn eich gallu. Erbyn i'ch blwyddyn gyntaf ddod i ben ymddengys y rhain fel atgof pell ac efallai y byddwch hyd yn oed yn cyfeirio at y Brifysgol fel “cartref” wedi i chi integreiddio i'ch cymuned Prifysgol a'ch amgylchedd.