look_stars.jpg

Camu i Fyny yn eich Blwyddyn Olaf

Y Cymal Olaf

Efallai eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn PDC ac yn edrych ymlaen at gwblhau eich gradd, neu fod gennych bryderon am yr heriau sydd o'n blaenau, y naill ffordd neu'r llall, bydd yr adnodd hwn yn rhoi glasbrint i chi oroesi - a mwynhau - blwyddyn olaf lwyddiannus. 

O’r gorau, gallai eleni fod yn anodd, efallai y byddwch yn ymdrin â rheoli heriau, yn academaidd ac yn bersonol. Mae llawer o ddarllen i'w wneud a byddwch yn cwblhau eich prosiect blwyddyn olaf neu'ch traethawd estynedig.

Peidiwch â dychryn! Meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i gyflawni hyd yma, gan ddwyn ynghyd yr holl wybodaeth a sgiliau rydych wedi'u datblygu. Wrth gamu i fyny i lefel chwech byddwch yn parhau i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy hynny sy'n bwysig ar gyfer cyfleoedd a gyrfaoedd yn y dyfodol.  

Paratowch nawr, cynlluniwch ar gyfer y flwyddyn i ddod a thu hwnt.