blue_squares

Ailadrodd Modiwlau

Os ydych chi'n ymgymryd â modiwlau sydd â statws modules ‘Blwyddyn Ail-adrodd - Ail-wneud modiwlau a fethwyd' neu 'Symud Ymlaen - Ailadrodd neu Fodwl Amnewid,' yn ystod y sesiwn academaidd hon, mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall y wybodaeth ganlynol.

Os oes gennych chi statws Ailadrodd arall, fel ‘Blwyddyn Ailadrodd - Ymgais Gyntaf,' rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at y dudalen Deall fy nghanlyniadau i gael rhagor o wybodaeth.


Beth sydd angen i chi ei wybod…

  • Mae'n ofynnol i chi ail-sefyll un neu fwy o fodiwlau y gwnaethoch eu methu yn y sesiwn academaidd flaenorol.
  • Rhaid i chi basio modiwl ailadroddus gan mai dim ond unwaith y cewch chi ail-wneud (ni fydd hyn yn effeithio ar eich cyfleoedd ailsefyll diwedd blwyddyn).
  • Mae modiwlau ailadrodd yn cael eu capio wrth eu pasio.
  • Efallai y bydd goblygiadau ariannol i ailadrodd modiwlau; ewch i Ailadrodd Rhan o'ch Cwrs - Goblygiadau Ariannu.
  • Dylech roi gwybod i'ch corff cyllido am eich statws myfyriwr ailadrodd gan ei bod yn debygol y bydd yn effeithio ar eich cyllid.
  • Gall y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr roi cyngor ar oblygiadau ariannol ailadrodd.
  • Rydym yn eich cynghorir i wneud apwyntiad gyda'ch Arweinydd Cwrs. Gall ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’ch helpu i gwblhau eich astudiaethau.
  • Mae'n bwysig eich bod yn darllen y Rheoliadau Ailadrodd Modiwl.

Gwella Eich Cyfleoedd o Lwyddiant

I wella'ch siawns o ailadrodd eich modiwlau'n llwyddiannus, bydd angen i chi:

  • Mynychu ac ymgysylltu â'r holl sesiynau addysgu
  • Sicrhau eich bod yn adnabod eich cwricwlwm a'ch amserlen
  • Ymgymryd â phob elfen o asesu sy'n gysylltiedig â'ch cwricwlwm
  • Adnabod eich dyddiadau asesu


Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Ailsefyll ac Ailadrodd?

Mae ailsefyll yn gyfle i gyflwyno asesiadau a fethwyd (fel arfer yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf) tra bod ailadrodd yn golygu cwblhau (gan gynnwys presenoldeb) modiwl(au) a fethwyd yn y flwyddyn academaidd nesaf (gyda phob asesiad yn y modiwl(au) i’w cwblhau).  


Disgwyliadau ymgysylltu

Mae'n ofynnol i chi ymgysylltu'n llawn â'ch modiwlau a ailadroddir a'u mynychu, hyd yn oed os ydych wedi mynychu pob sesiwn sy'n gysylltiedig â'r modiwl y flwyddyn flaenorol. Mae ymgysylltu â'ch cwrs yn golygu cymryd rhan yn llawn i'ch helpu chi i wella eich sgiliau, pasio aseiniadau y tro cyntaf, ac i llywddo. Mae myfyrwyr sydd ddim yn ymgysylltu gyda’u hastudiaethau mewn perygl o methu eu cwrs neu gael eu tynnu'n ôl am Ddiffyg Ymgysylltu.

Pam ymgysylltu?

Sut allwch chi wella ac allwn ni helpu?

Os ydych chi'n ail-wneud modiwlau, rydym wedi cynhyrchu holiadur myfyriol i'ch cefnogi.  Bydd y cwestiynau yn eich helpu i fyfyrio ar pam na wnaethoch chi basio'r llynedd, gosod eich nodau ar gyfer y flwyddyn i ddod a dweud wrthym beth y gall y Brifysgol ei wneud i'ch cefnogi. Mae eich atebion yn ddienw oni bai eich bod yn dewis rhoi manylion eich cwrs a rhif adnabod  myfyriwr.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod myfyrwyr sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth, yn mynd ymlaen i lwyddo yn eu hastudiaethau. Am fwy o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth, ewch i'r dudalen Gwasanaethau Cymorth.

Efallai y bydd y gwasanaethau isod yn ddefnyddiol i chi:

Llyfrgell PDC

Sgiliau Astudio PDC


Efallai y bydd yr adnoddau isod yn ddefnyddiol i chi hefyd: 

Eich Taith Myfyriwr

Cadw Chi ar Trac

Defnyddio Adborth i Symud Ymlaen